Monday, 21 January 2013

Gwasanaeth Iechyd/Health Service


Y GWASANAETH IECHYD - Neges gan Elin Jones AC

Yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd Ymddiriedolaeth Hywel Dda ei chynlluniau ar gyfer dyfodol y gwasanaeth iechyd yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Mae na rywfaint o newyddion da i ni, yn yr ystyr fod rhai o’r dadleuon dros gadw nifer o wasanaethau craidd ym Mronglais, wedi eu harwain gan feddygon profiadol, wedi eu hennill yn dilyn y brotest fawr effeithiol ar risiau’r Senedd yng Nghaerdydd y llynedd, a gwaith di-flino ymgyrchwyr lleol. Serch hynny, bydd rhad i ni gadw golwg barcud i wneud yn siŵr fod yr addewidion hyn yn cael eu cadw. Yn benodol, byddaf yn parhau i ymgyrchu dros wasanaeth argyfwng a mamolaeth llawn, gwelliannau i’r theatrau llawfeddygol, ac adfer gwasanaethau iechyd meddwl ar ward Afallon.

Bydd trigolion rhai ardaloedd yn siomedig y bydd rhai gwasanaethau yn Ysbytai Llanelli a'r Llwynhelyg yn cael eu canoli yng Nglangwili, ac mi fydd brwydrau gwleidyddol o’n blaenau yma ac yn y gogledd.

Yr elfen bwysig arall i gynlluniau Hywel Dda yw’r buddsoddiad mewn gwasanaethau cymunedol. Rwy’n falch i weld ymrwymiad i gefnogi cynlluniau’r Cyngor Sir yn Nhregaron, a chanolfannau iechyd newydd yn Aberaeron ac Aberteifi, yn enwedig gan fod y broblem dros berchnogaeth y tir yn Aberteifi nawr wedi ei ddatrys. Gallwn symud ymlaen gyda’r cynlluniau yma nawr, er y bydd rhaid i ni weithio i sicrhau ariannu addas i unrhyw symudiad tuag at ofal iechyd yn y gymuned.

HEALTH SERVICE LATEST - Message from Elin Jones AM

Last week, the Hywel Dda Trust announced its plans for the future of healthcare in Ceredigion, Carmarthenshire and Pembrokeshire.

There is some good news for us, in that some of the arguments for retaining life-saving consultant-delivered services at Bronglais have been won, following the well-attended, loud and colourful protest on the steps of the Senedd in Cardiff last year, and the tireless work of local campaigners. However, we need to keep a constant watch that promises are delivered. In particular, I will carry on campaigning to retain full A&E and maternity services, for upgrades to the operating theatres, and for the restoration of mental health services at Afallon ward.

Some areas will no doubt be dismayed that some services at Llanelli and Withybush Hospitals are being centralised at Glangwili, and there will be political battles to come both here and in the north.

The other important aspect to Hywel Dda’s plans is the investment in community services. I’m pleased at the commitment to support the County Council’s plans in Tregaron, and to new health centres in Aberaeron and Cardigan, particularly as the long-standing issue of the land purchase at Cardigan has been settled. We can now move forward with these plans, although we’ll need to ensure that any shift to community-based healthcare is properly resourced.

No comments:

Post a Comment