Monday, 21 January 2013

Band Llydan/Broadband


DIWEDDARIAD BAND LLYDAN - Nodyn gan Elin Jones AC

Yn y bwletin diwethaf cyn y Nadolig, soniais am fy ymgyrch i sicrhau fod yr ardaloedd hynny o Geredigion sy’n methu derbyn cysylltiad band-eang digonol yn cael eu blaenoriaethu yn y cynlluniau i gyflwyno’r genhedlaeth nesaf o gysylltiadau. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r nifer fawr ohonoch sydd wedi rhoi gwybod i mi pa mor gyflym yw’ch cysylltiad. Mae’r wybodaeth yn ddefnyddiol iawn wrth ymladd i gael y fargen orau i Geredigion, ac rwy’ wedi rhoi map at ei gilydd ar wefan yr ymgyrch yma.

Fel y gwelwch, mae rhannau mawr o’n sir lle mae’r cysylltiad yn arafach na 2Mbps. Mae angen blaenoriaethu’r ardaloedd yma. Os nad y’ch chi wedi gwneud eisoes, medrwch ychwanegu at y map a helpu’r ymgyrch trwy ddilyn y linicau a phrofi cyflymder eich cysylltiad.

http://elinceredigion.wordpress.com/2012/11/19/broadband-speed-survey/

BROADBAND UPDATE - Message from Elin Jones AM

In my last bulletin before Christmas, I mentioned my campaign to ensure that those parts of Ceredigion which currently get poor or no broadband connections are prioritised as the Welsh Government and BT roll out the next generation of broadband connections. I’m grateful to the many of you who let me know the speed of your connection. The information is hugely valuable in lobbying for a fair deal for Ceredigion, and I’ve put together a map of the results on the campaign website here.

As you’ll see, there are many parts of our county with slow connections below 2Mbps. These areas need to be prioritised for new investment. You can still add to the map and help the campaign by following the links and testing your connection speed.

http://elinceredigion.wordpress.com/2012/11/19/broadband-speed-survey/

No comments:

Post a Comment