Tuesday, 29 January 2013

Banc i Gymru

Yn yr hinsawdd ariannol bresennol, lle rydym ar fin dirwasgiad triple dip, mae'n briodol bod Plaid Cymru yn canolbwyntio ar bolisiau i gryfhau economi ein gwlad. Yn y pen draw mae popeth yn dod yn ol i'r economi.

Wythnos diwethaf, fe wnaeth Alun Ffred Jones fanylu ar un o gynlluniau'r Blaid i helpu busnesau bach a maint canolig Cymru i dyfu sef sefydlu banc i gynnig benthyciadau. Tyfu'r busnesau hyn sy'n allweddol i greu swyddi, creu cyfoeth a chryfau economi Cymru ond mae'r banciau mawr preifat wedi methu'r sector.

Mae'r cynlluniau yn debyg i fanciau landesbanken yn yr Almaen sydd yn cefnogi busnesau lleol yno yn ogystal a darparu gwasanaethau bancio ar gyfer unigolion. Cafodd y syniad cryn dipyn o sylw - ond mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar hyn os maen nhw wir eisiau i economi Cymru dal i fyny gyda gweddil Ewrop.

Gallwch ddarllen mwy am y polisi ar wefan Plaid Cymru.


No comments:

Post a Comment